top of page

Y Frân goesgoch - Red-billed Chough - Cág cosdearg - Pyrrhocorax pyrrhocorax

gan Fiach Byrne and Ben Porter


Beth sydd mewn enw?

Cyfeirio at big coch yr aderyn mae enw Saesneg y Frân goesgoch ond mae’r enw Gwyddeleg, fel yr enw Cymraeg, yn cyfeirio at y coesau coch. Mae hyn yn awgrymu’r cysylltiad cryf a welir yn aml rhwng y ddwy iaith Geltaidd.


Llun o’r frân goesgoch.Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.


Sut i adnabod y frân goesgoch:

Mae i’r frân goesgoch rai nodweddion amlwg iawn. Mae’r frân goesgoch yn fach – yn debyg o ran maint i’r Jac-do, ond mae ganddi big coch crwm, a phâr o goesau cochion. Gall plu du’r aderyn ymddangos yn nes at liw porffor yng ngolau’r haul.


Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol:

Ar yr arfordir y mae brain coesgoch yn fwyaf cyffredin, ond gwyddys eu bod i’w cael hefyd yn yr ucheldir ymhellach i mewn i’r tir. Maent yn nythu mewn agennau ac ogofâu ar hyd clogwyni môr, yn ogystal ag mewn adeiladau, hen chwareli a mwyngloddiau, a hyd yn oed mewn tancer a oedd wedi mynd ar y creigiau ar Inis Oírr yn Ynysoedd Aran. 1

Nid dim ond ar hyd yr arfordir y mae brain coesgoch yn byw, maen nhw hefyd yn bwydo ar bryfed a llyngyr ymysg y gwymon a olchir ar y traeth, ar hyd y twyni tywod, ac ar dir ffermio arfordirol.


Mae’r porfeydd a geir yn ardaloedd arfordirol Iveragh a Phen Llŷn yn bwysig iawn i’r frân goesgoch, yn enwedig lle maent wedi’u draenio’n dda ac yn wynebu’r de. Mae caeau sy’n cael eu pori’n dda gan ddefaid a gwartheg yn gweddu i ddull bwydo’r frân goesgoch, gan ei bod yn gallu gwthio’i phig coch crwm i mewn i’r pridd. Gall presenoldeb da byw hefyd gynyddu’r doreth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn a larfâu sy’n byw ar dail anifeiliaid. Mae ffynonellau bwyd tymhorol fel aeron a grawn yn ychwanegiadau pwysig i’w diet. 2, 3


Mae tymor bridio’r frân goesgoch yn dechrau tua chanol mis Ebrill, pan y gellir gweld y ceiliog a’r iâr yn cario deunydd i adeiladu nyth i’w safle nythu. Bydd yr iâr yn gori am bron i 20 diwrnod ar ôl iddi ddodwy’r wyau. Weithiau bydd yn chwilota am fwyd gyda’r clogwyni yn agos iawn at safle’r nyth, ond mae’n cael ei bwydo’n bennaf gan y ceiliog a fydd yn chwilio am fwyd yn y cyffiniau. Wedi i’r cywion ddeor, bydd y ceiliog a’r iâr yn gadael y nyth i’r chwilio am fwyd, gan ddychwelyd bob awr i fwydo’r cywion.


Pan fyddant tua 6-7 wythnos oed, bydd y cywion yn dechrau magu plu. Fodd bynnag, maen nhw’n aros gyda’u rhieni nes byddant yn gwbl annibynnol ac yn barod i ymuno â haid o frain coesgoch ifanc– pan fyddant tua 11-12 wythnos oed, ym mis Gorffennaf. 1, 3


Ar hyn o bryd mae’r Prosiect LIVE yn ymchwilio i ymddygiad y frân goesgoch wrth iddi chwilio am fwyd am y gaeaf yn Iveragh, ac rydym yn edrych ymlaen at roi gwybod mwy i chi am hyn yn ystod y misoedd nesaf!


Pâr o frain coesgoch yn hel deunydd i wneud nyth ym Mhen Llŷn.Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.


Chwedlau a llên gwerin yn gysylltiedig â’r frân goesgoch:

Mewn chwedloniaeth, mae cyswllt rhwng y frân goesgoch â’r Brenin Arthur, yr arweinydd Brythonig chwedlonol - sy’n gymeriad mewn llawer o nofelau, dramâu a ffilmiau. Dywedir nad fu’r Brenin Arthur farw – ond fe’i trowyd yn frân goesgoch yn ystod ei frwydr olaf. Gan fod ei ysbryd yn dal i fyw yn y rhywogaeth hon, credir ei bod yn anlwcus iawn i rywun ladd brân goesgoch. 4.


Enw arall ar y frân goesgoch yn Saesneg yw’r Cornish Chough. Mae’n ymddangos ar Arfbais Cernyw ac mae hynny’n tystio i gysylltiad hanesyddol cryf yr aderyn â Chernyw. Atgyfnerthwyd y cysylltiad hwn ymhellach gan ailymddangosiad diweddar y rhywogaeth, pan ddaeth tair brân goesgoch o Iwerddon (drwy brosesau cwbl naturiol) i Gernyw yn 2001, ar ôl i’r rhywogaeth ddiflannu’n lleol yn 1973. 5, 6


Yn hanesyddol, mae brain coesgoch hefyd wedi cael eu cyhuddo o ollwng gwellt neu ganhwyllau sy’n llosgi ar doeau gan yr awdur Saesneg Daniel Defoe. 4

Yn y cyswllt hwn, ystyr enw Lladin y rhywogaeth Pyrrhocorax pyrrhocorax yw ‘Brân Dân’. Mae’n debyg mai lliw coch ei phig a’i choesau sydd wrth wraidd yr enw hwn, yn hytrach nag unrhyw dueddiad i chwarae efo tân nad ydym yn gwybod dim amdano.



Haid o frain coesgoch yn hedfan ym Mhen Llŷn.Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.


Nodyn arbennig ar Iveragh:

Swydd Kerry a Swydd Cork yw cadarnleoedd poblogaeth y frân goesgoch yn Iwerddon, a gyda’i gilydd maent yn cynnwys 62% o gyfanswm poblogaeth y frân goesgoch yn Iwerddon. 1 Mae brain coesgoch i’w gweld drwy Ardal Warchodaeth Arbennig (SPA) Iveragh, sy’n cwmpasu’r ardal arfordirol rhwng Glenbehy ar arfordir gogleddol y penrhyn i lawr at Lamb’s Head yn y De. Mae rhai o’r mannau gorau i weld brain coesgoch yn ystod misoedd y gaeaf yn yr Ardal Warchodaeth Arbennig yn cynnwys y porfeydd o amgylch Killelan, Bray Head, Goleudy a Llwybr Tetrapod Ynys Valentia, a chylchdaith Bolus Head. Mae’r twyni tywod yn Derrynane hefyd yn tueddu i gynnwys niferoedd cyson o frain coesgoch drwy gydol y gaeaf.



Brân goesgoch gyda’i phig wedi’i orchuddio â thywod yn hedfan dros Derrynane. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Linda Lyne.


Nodyn arbennig ar Benrhyn Llŷn:

Mae Llŷn yn un o’r ardaloedd pwysicaf yng Nghymru ar gyfer brain coesgoch. Mae nifer o ‘Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig’ a ‘Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig’ ar hyd arfordir Llŷn sy’n cael eu rheoli’n benodol i sicrhau’r cynefin gorau posibl ar gyfer y rhywogaeth. O’r herwydd, mae gennych chi siawns dda o weld brain coesgoch bron yn unrhyw le ar hyd llwybr yr arfordir. Mae ynys Ynys Enlli yn gadarnle arbennig i’r rhywogaeth, ac fel rheol mae’n cynnal wyth pâr yn nythu ar hyd ei harfordir creigiog, gyda hyd at 50 o adar sy’n gaeafu yn bwydo ymysg y gwymon sy’n cael ei daflu ar ei glannau yn ystod stormydd gaeafol. Mewn mannau eraill, mae’r ardaloedd o laswelltir o amgylch Mynydd Mawr a’r Eifl yn safleoedd gwych i gael cipolwg ar y ‘Frân Dân’ hon.


Teulu o frain coesgoch ar hyd yr arfordir. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.



Cyfeiriadau:

bottom of page